01248 410580
[email protected]
Rydym yn siomedig o orfod rhannu na fydd gŵyl Folk on the Farm yn cael ei chynnal eleni oherwydd gwaith adeiladu hanfodol ar y safle a’r difrod sylweddol a achoswyd gan y stormydd geirwon a gafwyd y flwyddyn yma.
Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd, ond rhaid i ni ystyried yr hyn sydd orau i’n holl fynychwyr a staff gwych.
Ar yr ochr gadarnhaol, mae hyn yn rhoi amser ychwanegol i ni gynllunio rhywbeth hyd yn oed yn fwy arbennig ar gyfer 2027.
Diolch yn fawr i chi am eich amynedd, ac am ddeall – rydym wir yn gobeithio eich gweld chi i gyd y flwyddyn nesaf.
Diolch i’r holl berfformwyr, trefnwyr, gwirfoddolwyr, staff, mynychwyr a chefnogwyr am wneud pob gŵyl Folk on the Farm 2024 yn llwyddiant ysgubol. Hyfryd oedd gweld hen ffrindiau eto.
O ddechrau bach yn 2013 mae gwyl ‘Folk on the Farm’ wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel un o uchafbwyntiau y calendr gwyl gwerin, yn denu cannoedd o pobl bob blwyddyn ac yn cynnwys rhai o'r artistiaid gwerin gorau o bob cwr y DU.
Trefnir bob blwyddyn gan Tyddyn Môn, elusen sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, a Jon Hippy cyfarwyddwr yr ŵyl, defnyddir yr holl elw o'r ŵyl i gefnogi'r elusen a'i gweithgareddau.