English

Folk on the Farm

01248 410580
[email protected]

Stiwardiaid

Rydym yn chwilio am stiwardiaid i'n cynorthwyo ni yng Ngŵyl Folk on the Farm eleni. Prif rôl ein stiwardiaid yw i sicrhau bod ein gwesteion yn cael brofiad diogel a pleserus.

Mae stiwardiaid yn darparu cymorth ymarferol gan helpu gyda phopeth o barcio a gwirio tocynnau i reoleiddio'r gwersyll a sefydlu'r llwyfan.

Gofynnir i stiwardiaid weithio rhwng 10 a 12 awr dros y penwythnos ar sail rota, yn gyfnewid byddant yn derbyn tocyn gwyl am ddim.

Os hoffech wneud cais i fod yn stiward eleni, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn dod yn ôl atoch gyda manylion pellach.

Amodau a Thelerau ar gyfer Gwirfoddolwyr yr Ŵyl

  1. Byddwch yn cael tocyn penwythnos, yn cynnwys gwersylla, yn dâl am hyd at 12 awr o waith dros y penwythnos.
  2. Ni fyddwn yn gofyn ichi weithio cyn 10am nac a rôl 11pm, ac eithrio’r rhai a fydd yn darparu gwasanaeth diogelwch nos ac yn gweithio y tu ôl i’r bar.
  3. Hanner dydd Dydd Iau tan 11pm Dydd Sul yw cyfnod craidd yr ŵyl. Bydd y gwaith o osod pethau yn eu lle a thynnu pethau i lawr yn digwydd y tu allan i’r cyfnod hwn, ac efallai y bydd gwaith o’r fath yn golygu gweithio oriau hirach.
  4. Dylai pob gwirfoddolwr fod yn barod i weithio sifftiau yn ystod y dydd neu fin nos, fel bo’r gofyn. Ni fydd y sifftiau’n para mwy na 2 awr ar y tro, ac eithrio wrth osod pethau yn eu lle ac wrth wneud gwaith diogelwch nos.
  5. Os oes gennych broblemau symud neu broblemau iechyd o unrhyw fath – sef problemau a allai gyfyngu ar eich gallu i weithio – rhaid ichi ddatgan hyn ar y ffurflen gais.
  6. Cyfrifoldeb y gwirfoddolwyr yw cadarnhau pa sifftiau sydd wedi’u trefnu ar eu cyfer. Dylai’r gwirfoddolwyr fod yn ymwybodol y gallai’r trefniadau newidar yr unfed awr ar ddeg. Bydd newidiadau o’r fath yn cael eu harddangos yn swyddfa’r stiwardyn y brif iard.
  7. Gofynnir i’r gwirfoddolwyr sicrhau eu bod yn cyrraedd y lleoliad sydd wedi’i drefnu ar eu cyfer mewn da bryd ar gyfer dechrau’r sifft. Bydd hyn yn dangos cwrteisi tuag at y gwirfoddolwyr blaenorol a bydd yn sicrhau y gall yr ŵyl fynd rhagddi’n ddidrafferth.
  8. Disgwylir i’r holl stiwardiaid ymddwyn mewn modd proffesiynol, digynnwrf a chwrtais, yn ogystal â bod yn wyliadwrus o faterion iechyd a diogelwch bob amser. Tra byddwch ar ddyletswydd, rhaid ichi fod yn sobr ac ni ddylech smygu na defnyddio e-sigaréts.
  9. Os ydych yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer cyflwr iechyd o unrhywfath, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon i bara trwy’r ŵyl.
  10. Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yn yr AWYR AGORED, yng Ngogledd Cymru, felly efallai y bydd y tywydd yn gyfnewidiol. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad addas ar gyfer pob digwyddiad posibl… yn cynnwys eli haul.
  11. Bydd eich manylion personol yn cael eu cadw gan Folk on the Farm tan 30 Ebrill 2024, ond ni fyddant yn cael eu rhannu gydag unrhyw drydydd parti, yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data.
  12. Bydd sesiwn wybodaeth i stiwardiaid yn cael ei chynnal ar ddechrau’r ŵyl. Bydd yn ofynnol i bob gwirfoddolwr fynychu’r sesiwn hon.

PerformersPerformersPerformersPerformersPerformersPerformersPerformersPerformers