English

Folk on the Farm

01248 410580
[email protected]

Folk on the Farm 2022

Diolch i’r holl berfformwyr, trefnwyr, gwirfoddolwyr, staff, mynychwyr a chefnogwyr am wneud pob gŵyl Folk on the Farm yn llwyddiant ysgubol.

Dewch ar daith yn ôl i’n gwyliau blaenorol ac ail-fyw’r perfformiadau. Diolch i Peter Simmons am y fideos gwych o’r ŵyl sydd i’w gweld ar y wefan hon ac i Mike Hawkes a Lisa Hooton am y ffotograffiaeth o’r ŵyl.

ARCHIF
2022 -2019 - 2018 - 2017 - 2016 - 2015 - 2014 - 2013

Perfformwyr 2022

Prynhawn Gwener

Running with Scissors

Beaumont Bros

Stacey McNeill

Gareth Heesom

Kate McCullogh

James J Turner

Tennessee Waltz

Cobalt Tales

Nos Gwener

Yr Tyddyners

Jackie Gear

Idiot and Friend

O'Hooley & Tidow

Prynhawn Sadwrn

John Williams & Erica Harwood

Blu Gras

Ben Robertson

Deborah Jackson & Skeet Williams

Y Moniars

Nos Sadwrn

Phoebe Rees

Katie Spencer

Rory McLeod

Blackbeard's Tea Party

Prynhawn Sul

Run For Cover

A D Cooke Band

Corrie Shelley Band

Karen Pfeiffer/ Paul Walker

Gaelforce

Nos Sul

Southbound Attic Band

Jon Palmer Band

Henry Priestman & Les Glover

A Tribute To Drew

Bandiau 2022

Blackbeards's Tea Party
Hugh Taylor
Ben Robertson
Running With Scissors
A D Cook Band
Corrie Shelley Band
Y Moniars
Emma & Paul
Southbound Attic Band
Folkle
Bill Bates & Friend
Skylarks
Run For Cover
Skylarks & John Williams
Beaumont Brothers
Gareth Heesom
Kate McCullough
O'Hooley & Tidow
Cobalt Tales
The Tyddyners
The Three Busketeers
Jon Palmer Band
Gaelforce
Karen Pfeiffer & Paul Walker
Spinning Wheel
Ukes Of Hazzard
Idiot & Friend
Alan & Jon
Tennessee Walz Proposal
Katie Spencer
Jackie Gaer
John Williams & Jo Pue
Jackson Williams
James J Turner
Rory McLeod
Henry Priestman & Les Glover
Karin Grandal-Park & Ava Greenhall
Jackel & The Widow Maker

Noddwyr

Diolch i'n noddwyr

W O JONES

Caprice Furniture and Flooring

Hogan

Owen & Owen

Cymell Cyf

Adelphi Vaults, Amlwch Port

Pawson & Roberts M.B.E

Helô, Gyd-werinwyr, hipis a chyfeillion Folk on the Farm,

Mae Tyddyn Môn a minnau'n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu'n ôl i'r fferm elusennol ym Mrynrefail ar Ynys Môn ar gyfer Gŵyl Folk on the Farm ar yr 8fed, ar ôl ychydig flynyddoedd eithaf heriol, trist a rhwystredig.

Rwyf eisiau cynnig fy nghydymdeimlad dwys i unrhyw un sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Yn anffodus, bydd nifer ohonoch eisoes yn gwybod y bu farw un o aelodau sylfaenol yr ŵyl yn ystod y pandemig. Roedd Drew fel brawd i mi a Simmo, ac roedd yn gymeriad poblogaidd tu hwnt ymysg gwyliau. Mae ei golled i'w deimlo ledled y gymuned ŵyl werin. Bydd gŵyl Folk on the Farm 2022 yn hynod o emosiynol hebddo, ond rwy'n siŵr y bydd yno yn mwynhau gyda phawb mewn ysbryd!! Heb os, bydd sawl sgwrs a nifer o atgofion yn cael eu rhannu dros y penwythnos, ond fel y byddai Drew wedi dweud ei hun "Rhaid i'r sioe fynd yn ei blaen, awê!!"

Pleser yw cyhoeddi bod y rhan fwyaf o'r artistiaid a oedd wedi bwriadu chwarae yn 2020 wedi cytuno i chwarae eleni, ar wahân i ambell un. Cymerwch gip ar yr artistiaid sydd gennym ar y gweill i chi isod. Bydd y noson Gwerin ychwanegol ar nos Iau 7 Gorffennaf am 7pm, yn ogystal â'n cyngerdd brynhawn ddydd Gwener, yn cael eu cynnal yn y babell fawr yn y goedwig ar y fferm. Bydd y brif lwyfan a'r ŵyl yn dechrau'n swyddogol nos Wener, yn agor gyda'n Tyddyners ni ein hunain.

Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i wneud yr ŵyl yn amgylchedd sy'n rhydd rhag Covid, gyda threfn glanhau mwy trylwyr ac rydym yn gofyn i chithau chwarae eich rhan hefyd. Defnyddiwch y glanweithyddion dwylo a ddarperir wrth y fynedfa i bob lleoliad. Nid yw gorchuddion wyneb yn orfodol yn ystod perfformiadau, ond mae croeso ichi wisgo un os ydych yn dymuno gwneud. Hefyd, mae nifer ohonom yn hoff o gofleidio yn y gymuned werin, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn caniatâd yr unigolyn yn gyntaf.

Yn olaf, diolch i chi am gefnogi'r ŵyl Folk on the Farm, a gadewch i ni fwynhau'r penwythnos.

Jon Hippy
Cyfarwyddwr Gŵyl